Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 18 Hydref 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13523


165

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

Datganiad gan y Llywydd

Am 13.30, cyhoeddodd y Llywydd y bu James Evans yn llwyddiannus yn y balot ar gyfer Bil Aelod i ofyn am gytundeb y Senedd ar ei gynnig ar gyfer Bil Iechyd Meddwl (Cymru).

</AI2>

<AI3>

1       Cwestiynau i Weinidog yr Economi

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

2       Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dechreuodd yr eitem am 14.17

Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 9 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI4>

<AI5>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.06

Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Sam Rowlands (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog yn eu cael gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn ei rybudd fod y cyngor yn wynebu methdaliad oni bai bod gwasanaethau a swyddi yn cael eu torri?

</AI5>

<AI6>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.20

Gwnaeth Natasha Asghar ddatganiad am - Wythnos Ymwybyddiaeth Syndrom Irlen (16-20 Hydref).

Gwnaeth Mark Isherwood ddatganiad am - Diwrnod Menopos y Byd (18 Hydref).

Gwnaeth Samuel Kurtz ddatganiad am - 30 mlynedd o Loteri Sir Benfro (12 Hydref)

</AI6>

<AI7>

5       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol

Dechreuodd yr eitem am 15.25

NDM8379 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, ‘Gwasanaethau Hamdden a Llyfrgelloedd Awdurdodau Lleol’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Gorffennaf 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Medi 2023.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

6       Dadl ar ddeiseb P-06-1345 - Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai

Dechreuodd yr eitem am 16.21

NDM8380 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai’ a gasglodd 10,580 o lofnodion.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI8>

<AI9>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Digartrefedd

Dechreuodd yr eitem am 15.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8384 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru.

2. Yn credu na fydd Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir.

3. Yn nodi gyda phryder fod nifer yr unigolion sy'n cysgu ar y stryd wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 2020.

4. Yn cydnabod nad yw saith awdurdod lleol yn cofnodi gwybodaeth am farwolaethau digartrefedd.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rhwydwaith ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i'r Combined Homelessness and Information Network, i sicrhau bod digon o ddata ar gael i fynd i'r afael â digartrefedd yng Nghymru a'i effaith.  

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

15

0

39

54

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwellliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r diwygio dewr, uchelgeisiol a radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

2. Yn nodi cyfraniad hanfodol y rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd wrth baratoi’r Papur Gwyn a barn Prif Weithredwr Crisis bod yr uchelgais a welir ynddo yn arwain y byd.

3. Yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn helpu i lunio’r dull o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru yn y dyfodol.

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:

NDM8384 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn croesawu’r diwygio dewr, uchelgeisiol a radical ar gyfer y dyfodol a nodir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

2. Yn nodi cyfraniad hanfodol y rhai sydd â phrofiad bywyd o ddigartrefedd wrth baratoi’r Papur Gwyn a barn Prif Weithredwr Crisis bod yr uchelgais a welir ynddo yn arwain y byd.

3. Yn annog ymatebion i’r ymgynghoriad a fydd yn helpu i lunio’r dull o fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru yn y dyfodol.

Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

39

0

15

54

Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

</AI9>

<AI10>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.46

</AI10>

<AI11>

</AI11>

<AI12>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.49

NDM8383 Rhianon Passmore (Islwyn)

Chwalu'r nenfwd dosbarth - adeiladu Cymru egalitaraidd.

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.14

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Hydref 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>